Skip to main content
Tes home
SearchBack to search
Deputy Headteacher

Deputy Headteacher

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

Ceredigion

  • Expired
Salary:
Salary L16 - L20 (£ 54,849 - £ 60,408)
Job type:
Full Time, Permanent
Start date:
01 January 2015
Apply by:
17 September 2014

Job overview

DIRPRWY BENNAETH

Cyflog L16 - L20 (£54,849 - £60,408)

A hithau newydd ddathlu ei phenblwydd yn ddeugain oed mae Penweddig yn parhau i arwain y ffordd ym maes addysg uwchradd Cymraeg. Mewn cyfnod lle mae niferoedd disgyblion yn gyffredinol yn disgyn mae Penweddig yn mynd o nerth i nerth ac mae'r niferoedd yn codi o flwyddyn i flwyddyn.

Er mwyn symud yr ysgol ymlaen i'r cyfnod cyffrous, newydd hwn rydym yn chwilio am unigolyn blaengar a chymwys sydd yn arweinydd naturiol ac yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol ardderchog i fod yn aelod o Uwch Dm Rheoli llwyddiannus ac uchelgeisiol.

Yn ysgol benodedig ddwyieithog mae Penweddig yn gyson yn cyrraedd safonau uchel ymhob agwedd o'i gwaith a chaiff hynny ei gydnabod gan y cyrff perthnasol.

Mae'r swydd hon felly yn cynnig cyfle ardderchog i chwarae rhan lawn yn y gwaith o gefnogi, hyrwyddo ac arwain yn yr amryw agweddau o fywyd ysgol blaenllaw a blaengar.

Lleolir Penweddig yn un o drefi mwyaf diwylliannol a hanesyddol Cymru ac mae sir Ceredigion yn cynnig ansawdd byw o'r lefel uchaf, yn ogystal a bod yn un o'r siroedd harddaf o ran tirwedd yng Nghymru.

Os am wybodaeth bellach neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â'r Pennaeth, Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, Ffordd Llanbadarn, Llangawsai, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3QN (Ffn: (01970) 639499 e-bost: ymholiadau@penweddig.ceredigion.sch.uk neu ewch i wefan yr ysgol i weld manylion pellach www.penweddig.ceredigion.sch.uk

Os am weld mwy o Geredigion ewch i www.darganfodceredigion.co.uk  

Dyddiad cau: 17 Medi 2014

About Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

School image 1
School image 2
School image 3
School image 4
+44 1970 639499

View on Google Maps

Visit employer website

CEFNDIR CRYNO

· Mae Penweddig yn ysgol ddwyieithog benodedig sy’n rhoi pwyslais ar yr iaith Gymraeg a chynnal ethos Gymreig. Mae sefydlu hunaniaeth ddwyeithog gref yn darparu’r sail i ddatblygu ymagwedd agored ac eangfrydig.

· Mae 578 disgybl yn yr ysgol

· Mae Ysgol Penweddig yn rhannu dalgylch o 21 ysgol gynradd gydag Ysgol Penglais, sef yr ysgol cyfrwng Saesneg sy’n gwasanaethu dalgylch Aberystwyth

· Mae ychydig dros hanner o ddisgyblion yr ysgol yn dod o gartrefi lle siaredir dim neu ond ychydig o Gymraeg

· Mae proffil ieithyddol y corff rhieni yn adlewyrchu proffil ieithyddol y plant

· Mae’r canran o giniawau rhad yn isel (tua 2%)

· Polisi Iaith a chwricwlwm yr ysgol:

· Addysgir ac asesir Saesneg yn Saesneg

· Dewisa’r disgyblion os ydynt am astudion a sefyll arholiadau Mathemateg a Gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg

· Addysgir ac asesir pob pwnc arall trwy gyfrwng y Gymraeg

· Dychwela canran uchel o tua 60 – 65% o ddisgyblion i’r chweched dosbarth

· Yn dilyn arholiadau safon uwch aiff cyfran uchel i ddilyn cyrsiau Addysg Uwch. Mae nifer sylweddol yn aros yng Nghymru. Aiff llawer ymlaen i brifysgolion Lloegr, a rhai i’r Alban a’r Iwerddon. Enillodd llif cyson o ddisgyblion leoedd yn Rhydychen a Chaergrawnt gan gynnwys mathemategwyr a gwyddonwyr a astudiodd y pynciau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgol.

· Mae gan yr ysgol draddodiad o lwyddiant academaidd ardderchog

· Ymrwyma’r ysgol i ddarparu addysg gyflawn ar gyfer ei disgyblion. Gwêl yr ysgol rôl gyflenwol gref rhwng astudiaethau academaidd a rhaglen gyfoethog o weithgareddau allgyrsiol. Maedda’r ysgol ar draddodiad balch a nodedig mewn sawl maes gan gynnwys cerddoriaeth, llenyddiaeth, chwaraeon, y meysydd creadigol, gwaith gwirfoddol a dyngarol.

· Cyniga’r ysgol bedair iaith ychwanegol at y Gymraeg a’r Saesneg: Ffrangeg, Almaeneg, Siapanaeg a Sbaeneg. Mae’r ysgol yn bartner blaenllaw mewn rhaglen ddeuffordd gyda thref Kaya-cho yn Siapan.

Please note that you are wholly responsible for fact checking in respect of the information provided by schools. Please also check for the latest visa and work permit requirements that may apply. Tes is not responsible for the content of advertisements or the policies adopted by advertising schools. Tes asks that all schools follow Tes' Fair Recruitment Policy.

Applications closed