Skip to main content
Tes home
SearchBack to search
Chemistry Teacher

Chemistry Teacher

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

Ceredigion

Salary:
£22023 - £37496
Job type:
Full Time, Permanent
Start date:
September 1, 2015
Apply by:
20 April 2015

Job overview

YSGOL GYFUN GYMUNEDOL PENWEDDIG

AIL HYSBYSEB / RE-ADVERTISEMENT

ATHRO/ATHRAWES CEMEG/CHEMISTRY TEACHER

Graddfa Cyflog £22023 - £37496 & Lwfans CDA 2a £2587

Yn eisiau erbyn 1 Medi 2015, athro/athrawes i fod yn gyfrifol am addysgu Cemeg hyd at Safon Uwch. Addysgir Gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn yr ysgol hon. Gall yr ymgeisydd llwyddiannus addysgu Cemeg drwy gyfrwng y Gymraeg neu drwy gyfrwng y Saesneg neu gyfuniad o’r ddwy iaith.

Disgwylir ymrwymiad llawn i gefnogi a hyrwyddo Cymreictod yn holl fywyd yr ysgol.

Gellir cael ffurflen gais a manylion pellach oddi wrth: Y Pennaeth, Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, Ffordd Llanbadarn, Llangawsai, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3QN (Ffôn: (01970) 639499 e-bost: ymholiadau@penweddig.ceredigion.sch.uk) neu oddi ar wefan yr ysgol www.penweddig.ceredigion.sch.uk

(This is an advertisement for a Chemistry Teacher at a school where the ability to teach through the medium of Welsh would be an advantage)

Dyddiad cau: 20 Ebrill 2015

About Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

School image 1
School image 2
School image 3
School image 4
+44 1970 639499

View on Google Maps

Visit employer website

CEFNDIR CRYNO

· Mae Penweddig yn ysgol ddwyieithog benodedig sy’n rhoi pwyslais ar yr iaith Gymraeg a chynnal ethos Gymreig. Mae sefydlu hunaniaeth ddwyeithog gref yn darparu’r sail i ddatblygu ymagwedd agored ac eangfrydig.

· Mae 578 disgybl yn yr ysgol

· Mae Ysgol Penweddig yn rhannu dalgylch o 21 ysgol gynradd gydag Ysgol Penglais, sef yr ysgol cyfrwng Saesneg sy’n gwasanaethu dalgylch Aberystwyth

· Mae ychydig dros hanner o ddisgyblion yr ysgol yn dod o gartrefi lle siaredir dim neu ond ychydig o Gymraeg

· Mae proffil ieithyddol y corff rhieni yn adlewyrchu proffil ieithyddol y plant

· Mae’r canran o giniawau rhad yn isel (tua 2%)

· Polisi Iaith a chwricwlwm yr ysgol:

· Addysgir ac asesir Saesneg yn Saesneg

· Dewisa’r disgyblion os ydynt am astudion a sefyll arholiadau Mathemateg a Gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg

· Addysgir ac asesir pob pwnc arall trwy gyfrwng y Gymraeg

· Dychwela canran uchel o tua 60 – 65% o ddisgyblion i’r chweched dosbarth

· Yn dilyn arholiadau safon uwch aiff cyfran uchel i ddilyn cyrsiau Addysg Uwch. Mae nifer sylweddol yn aros yng Nghymru. Aiff llawer ymlaen i brifysgolion Lloegr, a rhai i’r Alban a’r Iwerddon. Enillodd llif cyson o ddisgyblion leoedd yn Rhydychen a Chaergrawnt gan gynnwys mathemategwyr a gwyddonwyr a astudiodd y pynciau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgol.

· Mae gan yr ysgol draddodiad o lwyddiant academaidd ardderchog

· Ymrwyma’r ysgol i ddarparu addysg gyflawn ar gyfer ei disgyblion. Gwêl yr ysgol rôl gyflenwol gref rhwng astudiaethau academaidd a rhaglen gyfoethog o weithgareddau allgyrsiol. Maedda’r ysgol ar draddodiad balch a nodedig mewn sawl maes gan gynnwys cerddoriaeth, llenyddiaeth, chwaraeon, y meysydd creadigol, gwaith gwirfoddol a dyngarol.

· Cyniga’r ysgol bedair iaith ychwanegol at y Gymraeg a’r Saesneg: Ffrangeg, Almaeneg, Siapanaeg a Sbaeneg. Mae’r ysgol yn bartner blaenllaw mewn rhaglen ddeuffordd gyda thref Kaya-cho yn Siapan.

Please note that you are wholly responsible for fact checking in respect of the information provided by schools. Please also check for the latest visa and work permit requirements that may apply. Tes is not responsible for the content of advertisements or the policies adopted by advertising schools. Tes asks that all schools follow Tes' Fair Recruitment Policy.

Applications closed